Roedd arweinwyr Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon yn gwybod am y ‘llythyrau cysur’ i weriniaethwyr oedd ar ffo, yn ôl John Downey, y gŵr a gafodd ei arestio a’i ryddhau ar honiadau  o ladd milwyr gyda bom yn Hyde Park.

“Wrth gwrs eu bod nhw’n gwybod,” meddai’r cyn aelod o’r IRA mewn cyfweliad gyda’i bapur lleol, y Donegal Democrat.

Fe gafodd achos llofruddiaeth yn ei erbyn ei ollwng ar ôl i Farnwr ddweud fod y ‘llythyr cysur’ yn atal unrhyw erlyniad – roedd y llythyrau’n dweud wrth ffoaduriaid nad oedd gan yr heddlu achos i’w harestio.

Fe ddywedodd John Downey hefyd nad oedd yn deall pam ei fod cael ei arestio y llynedd, ac yntau wedi bod yn teithio’n ôl ac ymlaen i wledydd Prydain sawl tro.

Mae arweinwyr yr Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi mynnu nad oedden nhw’n gwybod am y llythyrau a’u bod yn ffrwyth “bargen fudr” rhwng Llywodraeth Lafur y cyfnod a phlaid weriniaethol Sinn Fein.