Vince Cable
Fe fydd yr isafswm cyflog yn codi 19c i £6.50 yr awr yn ddiweddarach eleni.

Mae hynny’n golygu y bydd mwy na miliwn o bobol yn cael codiad cyflog.

Fe fydd y swm yn codi 10c i bobol rhwng 18 ac 20 oed i £5.13 yr awr, ac yn codi 7c i £3.79 i bobol 16 a 17 oed.

Bydd y gyfradd ar gyfer prentisiaid yn codi 5c i £2.73 yr awr.

Mae disgwyl i’r newidiadau gael eu cyflwyno ym mis Hydref.

Hwn yw’r codiad cyflog mwyaf i weithwyr ar gyflogau isel ers 2008.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyflwyno’r newidiadau yn dilyn cyngor gan y Comisiwn Cyflogau Isel.

Wrth gyhoeddi’r newidiadau, dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable fod y cyngor yn “rhoi dealltwriaeth lawer gwell i ni ynghylch sut gall adferiad economaidd gael ei drosi’n gynnydd cyflymach a mwy sylweddol yn yr isafswm cyflog cenedlaethol i weithwyr ar gyflogau isel, heb golli swyddi.”

Er bod undeb Unison yn croesawu’r codiad cyflog, maen nhw’n rhybuddio nad yw’n ddigon i dynnu pobol allan o dlodi.

Dywedodd llefarydd: “Ar draws y wlad, mae pobol yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd.

“Gorau po gynta y symudwn ni i Gyflog Byw.

“Yr enillwyr go iawn heddiw yw’r benthycwyr benthyciadau diwrnod cyflog sy’n targedu pobol sy’n gweithio ac sy’n methu pontio’r agendor ariannol rhwng yr hyn maen nhw’n ei ennill a’r hyn sydd angen ar eu teuluoedd i oroesi.”

Ychwanegodd eu bod nhw am weld yr isafswm cyflog yn codi i £7 yr awr.