Oscar Pistorius
Bydd  drws yr ystafell ymolchi yr oedd Oscar Pistorius wedi tanio gwn ato, gan ladd ei gariad, yn cael ei ddangos yn yr Uchel Lys yn Pretoria, De Affrica heddiw.

Mae disgwyl i’r erlyniad geisio ail greu’r adeg pan saethwyd y fodel Reeva Steenkamp o ochor arall y drws y llynedd. Y tu ôl i’r drws, mae copi o’r ystafell ymolchi yng nghartref Pistorius, lle saethwyd hi.

Fe wnaeth Oscar Pistorius, 27, saethu Reeva Steenkamp bedair gwaith drwy ddrws yr ystafell ymolchi yn ei gartref ar Ddydd San Ffolant y llynedd, ond mae’n honni ei fod yn credu mai lleidr oedd hi.

Ar ail ddiwrnod yr achos yn Uchel Lys Pretoria, dywedodd y tyst Michell Burger ei bod hi’n dal i gofio’r sgrech “erchyll” ddaeth o dy Oscar Pistorius ar y noson y cafodd Reeva Steenkamp ei saethu’n farw.

Fe blediodd yr athletwr Paralympaidd yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddio ei gariad ar gychwyn yr achos ar 3 Mawrth.

Os yw’r barnwr yn ei gael yn euog o lofruddiaeth, mae’n wynebu dedfryd oes a fydd yn golygu o leiaf 25 mlynedd o garchar.

Mae  rhannau o’r achos yn cael eu dangos yn fyw ar deledu ar draws y byd.