Mark Carney
Mae llywodraethwr Banc Lloegr wedi rhybuddio bod  “posibilrwydd” y byddai’n rhaid i Fanc Brenhinol yr Alban (RBS) symud o’r Alban os yw pobl yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Dywedodd Mark Carney wrth Bwyllgor Dethol y Trysorlys hefyd y byddai gweddill y DU yn debygol o orfod rhoi help llaw i’r Alban mewn achos o argyfwng ariannol os byddai undeb ariannol rhwng y ddwy wlad – hyd yn oed os fyddai yna gytundeb ysgrifenedig yn diystyru hynny.

Ychwanegodd bod deddfau Ewropeaidd yn ei gwneud hi’n ofynnol i fanciau gael eu prif swyddfa yn yr un aelod-wladwriaeth a’u swyddfeydd cofrestredig,  a byddai hynny’n debygol o effeithio’r Alban.

Mae’r Canghellor George Osborne eisoes wedi diystyru undeb ariannol rhwng Alban annibynnol a gweddill y DU.

Ond mae Prif Weinidog Yr Alban Alex Salmond yn awyddus i greu “ardal sterling” gyda gweddill y DU.

Dywedodd Mark Carney mewn araith ym mis Ionawr y byddai undeb ariannol yn gorfodi’r Alban i ildio ychydig o  sofraniaeth genedlaethol mewn ffordd debyg i ardal yr ewro.

Dywedodd llefarydd dros yr ymgyrch yn erbyn annibyniaeth, Better Together, bod sylwadau Mark Carney yn “gyfraniad pwysig” i’r ddadl.

Ychwanegodd y llefarydd bod angen i bobl Yr Alban gael eglurder gan Alex Salmond am beth fyddai’n digwydd petai Lloegr yn gwrthod creu undeb ariannol yn dilyn y refferendwm.

Dywedodd Stewart Hosie, llefarydd trysorlys yr SNP: “Roedd Mark Carney’n glir mai’r  mater yr oedd o eisiau ei drafod oedd natur y trefniadau sydd eu hangen ar gyfer ffurfio undeb llwyddiannus. Rwy’n falch bod Gweithgor Comisiwn Ariannol Llywodraeth yr Alban wedi disgrifio cynllun manwl ar gyfer undeb o’r fath.”