Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dod o hyd i gorff dyn 75 oed mewn coedlan ger Shotton heddiw.
Roedd Robert David Dykins wedi bod ar goll o’i gartref yn Shotton yn Sir y Fflint ers bore ddoe ac nid yw’r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Bydd y broses o adnabod y corff yn cychwyn yn ddiweddarach ac mae crwner gogledd ddwyrain Cymru wedi cael ei hysbysu.
Dywedodd yr heddlu fod aelodau o deulu Robert Dykins wedi cael gwybod a’u bod eisiau diolch i’r cyhoedd am eu cymorth wrth geisio dod o hyd iddo.