Nigel Evans
Mae tyst wedi dweud wrth Lys y Goron Preston heddiw bod Nigel Evans wedi ymosod arno’n anweddus pan oedd yr Aelod Seneddol wedi meddwi mewn tafarn.

Meddai’r tyst, sy’n hoyw ac yn gweithio yn San Steffan, nad oedd hi’n gyfrinach yn San Steffan bod Nigel Evans yn hoyw.

Mae Nigel Evans, 56 oed, sy’n enedigol o Abertawe ac yn Aelod Seneddol Ribble Valley yn Sir Gaerhirfryn, yn wynebu naw cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn saith o ddynion sy’n dyddio o 2002 hyd at 1 Ebrill y llynedd.

Mae cyn-ddirprwy lefarydd Tŷ’r Cyffredin yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, chwe chyhuddiad o ymosod yn rhywiol ac un cyhuddiad o dreisio.

Dywedodd y tyst wrth Lys y Goron Preston fod yr AS wedi ceisio rhoi ei law i lawr ei drowsus ond ei fod wedi cerdded i ffwrdd gan ddiystyru’r digwyddiad fel “Nigel yn ymddwyn fel Nigel yn ei ddiod.”

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos ddoe, clywodd y llys bod Nigel Evans, wedi defnyddio ei ddylanwad gwleidyddol “pwerus” i fanteisio ar saith o ddynion ifanc.

Heddiw, dywedodd tyst cynta’r dydd ei fod gyda ffrindiau un noson yn 2002 pan wnaeth Nigel Evans, a oedd yn llefarydd y Ceidwadwyr dros Gymru ar y pryd, ymosod arno drwy roi ei ddwylo i lawr ei drowsus wrth yfed yn nhafarn Sanctuary yn Soho.

Yn dilyn y digwyddiad cyntaf, ceisiodd Nigel Evans wneud yr un fath eto nes bod y tyst, a oedd yn 27 oed ar y pryd, wedi dweud wrth ffrind : “Rwy’n mynd i’w ddyrnu.”

Dywedodd y tyst ei fod wedi ystyried y mater fel “jôc” ar y pryd a’i fod wedi cymdeithasu gydag Evans ar sawl achlysur ers hynny ond nad oedden nhw wedi trafod y mater.

Mae’r achos yn parhau ac mae Nigel Evans yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.