Eliza Mae Mullane
Mae galarwyr wedi bod yn rhoi teyrnged i fabi chwe diwrnod oed fu farw yn Sir Gaerfyrddin fis diwethaf.

Roedd tad  Eliza Mae Mullane wedi cario ei harch pinc i Eglwys y Groes Sanctaidd ym Mhontyberem prynhawn ma.

Bu farw Eliza Mae ar 18 Chwefror  yng nghartref y teulu ym Mhontyberem.

Mae dau gi oedd yn berchen i’r teulu wedi cael eu difa yn dilyn ei marwolaeth.

Cafodd ei rhieni, Sharon John a Patrick Mullane, eu cyfarch gan ffrindiau a theulu y tu allan i’r eglwys heddiw.

Roedd trefn y gwasanaeth yn cynnwys llun o Eliza yn gwisgo ei band arddwrn a gafodd yn yr ysbyty pan ganwyd hi.

Mewn datganiad a ryddhawyd yn ddiweddarach, dywedodd ei rhieni: “Fe ddaeth hi â llawenydd i’n teulu ac mae ei cholli hi fel hyn wedi taflu’r cysgod mwyaf erchyll dros bob un ohonom.”

Nid yw achos marwolaeth Eliza Mae yn hysbys eto, ac nid yw’r heddlu wedi rhoi unrhyw fanylion am ei hanafiadau.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi trosglwyddo gwybodaeth am farwolaeth y babi at y crwner yn Sir Gaerfyrddin.