Max Clifford
Mae dynes sydd wedi cyhuddo Max Clifford o ymosod yn anweddus arni wedi dweud wrth y llys ei bod yn meddwl ei fod yn mynd i’w threisio.
Mae’r ddynes yn honni bod Max Clifford wedi ymosod yn anweddus arni yn 1966 ar ôl iddyn nhw gyfarfod mewn bwyty Wimpy yn ne-orllewin Llundain.
Dywedodd wrth Lys y Goron Southwark bod yr asiant PR wedi cynnig lifft adref iddi cyn iddo yrru i lon gefn ger cae chwaraeon a dweud fod ganddo rywbeth i’w ddangos iddi.
Clywodd y llys ei fod wedi dangos llyfr gyda lluniau ohono gydag enwogion gan gynnwys y Beatles a’r Rolling Stones.
Meddai’r ddynes wrth Max Clifford y byddai’n hoffi cwrdd â’r Walker Brothers a’i ymateb oedd y byddai’n gallu trefnu hynny cyn ychwanegu bod rhaid iddi hi wneud rhywbeth iddo yn gynta’ a rhoi ei sedd yn ôl a’i chyffwrdd.
Dywedodd y ddynes ei bod wedi llwyddo i agor y drws a rhedeg am adref.
Ychwanegodd ei bod wedi dweud wrth ffrindiau am yr hyn a ddigwyddodd dros y blynyddoedd ond ei bod hi heb fynd at yr heddlu tan yn ddiweddar.
Mae Max Clifford, 70, o Hersham yn Surrey, wedi cael ei gyhuddo o 11 achos o ymosod yn anweddus yn erbyn saith o fenywod a merched. Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.