Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth honedig dyn ifanc o Fryste, wedi arestio pedwar dyn.

Fe ddaethpwyd o hyd i Nicholas Robinson wedi’i anafu yn Lower Gay Street, Stokes Croft, nos Fercher ddiwethaf. Mae llefarydd ar ran Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cadarnhau iddo gael ei drywanu ar risiau mewn bloc o fflatiau, wedi iddo adael ei gartre’ yn Jamaica Street yn gynharach y noson honno.

“Gallaf gadarnhau ein bod wedi arestio pedwar dyn mewn cysylltiad â marwolaeth Nicholas Robinson,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r dynion, 18, 20, 25 a 26 oed, yn cael eu cadw yn y ddalfa a’u holi.

“Er hyn, rydyn ni’n apelio am gymorth gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am beth allai fod wedi arwain at farwolaeth Nicholas.”