Mae pennaeth Network Rail wedi ymddiheuro’n “llaes ac yn llawn” i deuluoedd y rheiny sydd wedi cael eu lladd tra’n croesi llinellau rheilffordd.

Fe ddaw’r ymddiheuriad yn dilyn cwynion ac ymosodiadau gan Aelodau Seneddol.

Mae Network Rail wedi arddangos “diffyg consyrn oeraidd” am deuluoedd sy’n diodde’ wedi damweiniau ar groesfannau, meddai Cadeirydd Pwyllgor Trafnidiaeth Ty’r Cyffredin, Louise Ellman.

Mae adroddiad gan y pwyllgor hwnnw’n beirniadu’r modd y cafodd teuluoedd dwy ferch yn eu harddegau eu trin wedi marwolaeth Olivia Bazlinton, 14, a Charlotte Thompson, 13, ar groesfan Elsenham yn Essex ym mis Rhagfyr 2005.

Ymddiheuriad

Meddai Mark Carne, Prif Weithredwr Network Rail:

“Heddiw, rwy’n dymuno estyn ymddiheuriad llwyr a llawn ar ran Network Rail i bawb sydd wedi’u heffeithio gan unrhyw ddiffyg – bach neu fawr – gan y cwmni wrth reoli diogelwch ar groesfannau.

“Does dim byd a ddywedwn, neu a wnawn, yn mynd i leihau’r boen… ond heddiw, mae Network Rail yn gwmni gwahanol iawn i’r un oedd yn gweithredu pan ddigwyddodd rhai o’r trychinebau hyn.”

“Fel rhan o’r trawsnewidiad hwn, mae croesfannau gwledydd Prydain gyda’r saffaf yn Ewrop, ond mae llawer y gallwn ni ei wneud o hyd, ac mae argymhellion adroddiad y Pwyllgor yn mynd i’n cynorthwyo ni i’r cyfeiriad hwn.”