Yingluck Shinawatra, Prif Weinidog Gwlad Thai - mae protestwyr yn galw arni i ymddiswyddo
Mae dau oedolyn diniwed wedi’u saethu ger y fan lle mae gwrthwynebwyr llywodraeth Gwlad Thai yn protestio ym mhrifddinas y wlad.

Fe gafodd dynes 31 oed ei saethu tra’n cerdded ar y stryd, ac fe gafodd gyrrwr tacsi hefyd ei anafu yn ei goes tra’n dreifio ger Parc Lumpini, Bangkok.

Fe saethwyd y bwledi o’r tu mewn i’r parc, ond dyw hi ddim yn glir eto pwy wnaeth eu saethu.

Mae llefarydd ar ran y gwasanaethau brys wedi cadarnhau fod y ddau a gafodd eu hanafu bellach wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Ers i’r protestiadau ddechrau ym mis Tachwedd y llynedd, mae 23 o bobol wedi’u lladd a thros 700 o bobol wedi’u hanafu. Mae’r protestwyr yn galw ar i Brif Weinidog y wlad ymddiswyddo.