Jimmy Savile (jmb CCA 2.5)
Fe fydd hysbysebion yn cael eu gosod mewn papurau Prydeinig i roi gwybod am iawndal i bobol a allai fod wedi diodde’ ymosodiadau rhywiol gan y cyflwynydd teledu, Jimmy Savile.
Er bod 140 o achwynwyr eisoes wedi dod gerbron, mae llys wedi penderfynu bod rhaid hysbysebu i roi gwybod am y cynllun iawndal sydd wedi ei gytuno rhwng stad y diweddar gyflwynydd, y Gwasanaeth Iechyd a’r BBC.
Yn ôl cyfreithwyr, roedd angen i sgutorion y stad o tua £4 miliwn wybod faint o hawliadau oedd yn debyg o fod.
Ymosod
Y gred yw bod Savile wedi ymosod yn rhywiol ar y mwy na chant o bobol ifanc – yn arbennig marched ifanc – yn ystod ei gyfnod yn gweithio i’r BBC ac yn gwneud gwaith elusennol yn y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ôl cyfreithwyr sy’n cynrychioli dioddefwyr, doedd y cynllun iawndal ddim yn gwarantu taliadau, ond roedd yn gosod fframwaith i ddelio â cheisiadau.