Mae’r tywydd stormus yn creu penawdau unwaith eto heddiw, gyda 4,000 o gartrefi yng ngogledd a chanolbarth Cymru yn parhau i fod heb drydan.

Mae cwmni ScottishPower wedi datgan eu bod nhw’n gobeithio y byddan nhw wedi adfer cyflenwad trydan eu cwsmeriaid i gyd erbyn hanner nos heno.

Bu farw dau o bobl wrth i wyntoedd cryfion a glaw trwm daro Prydain dros nos. De Lloegr a effeithiwyd fwyaf gan y storm.

Bu farw dyn 85 oed, un o’r teithwyr ar long oedd ar fordaith yn y Sianel. Fe gafodd  llong y Marco Polo ei tharo gan don enfawr. Roedd y llong yn ceisio cyrraedd porthladd Tilbury ar y pryd.

A bu farw Julie Sillitoe, 49 oed, yn nghanol Llundain ar ôl i ddarn o adeilad syrthio ar ei char. Roedd yn gweithio fel gyrrwr tacsi yn y brifddinas.

Bu’n rhaid i 17 o bobl adael eu fflatiau yn y Barri ar ol i ran o do’r adeilad chwythu i ffwrdd mewn gwyntoedd cryfion.

Mae tri rhybudd llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau yng Nghymru. Yr hardaloedd sydd wedi cael eu cynnwys yn y rhybuddion hyn yw Dyffryn Conwy, y tir o amgylch afon Gwy yn Nhrefynwy, a’r rhannau o Drefynwy sydd ddim wedi cael eu hamddiffyn, a Dyffryn Dyfrdwy isaf o Langollen i Ddolau Trefalyn. Mae’r category Rhybudd Llifogydd yn golygu y disgwylir llifogydd ac mae angen gweithredu ar unwaith.

Mae 28 o rybuddion llifogydd llai difrifol hefyd wedi cael eu gosod gan yr Asiantaeth ar draws Cymru. Mae’n parhau i lawio’n drwm yng Nghymru a’r disgwyl yw y bydd 1.6 modfedd o law yn disgyn yn y de heddiw.