Mark James
Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, wedi cytuno i adael ei swydd dros dro tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.

Mewn datganiad cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor Kevin Madge fod Mr James wedi gwneud y penderfyniad ar y cyd, ac na fyddai’n dychwelyd nes i ymholiadau’r heddlu ddod i ben.

Cyhuddwyd Mark James a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones, o dderbyn taliadau anghyfreithlon mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae’r heddlu bellach yn ymchwilio i’r ddau achos.

Mae Mark James wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le, gan wrthod gadael ei swydd, ac fe wrthododd Kevin Madge ei wahardd.

Ond prynhawn yma fe gyhoeddwyd tro pedol mewn datganiad gan Arweinydd Cyngor Sir Gâr.

“Drwy gytundeb ar y cyd ni fydd y Prif Weithredwr Mr Mark James bellach yn ymgymryd â’i ddyletswyddau fel Prif Weithredwr o hyn tan bod ymholiadau yr Heddlu ynghylch y ddau Adroddiad Budd Cyhoeddus Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod i ben,” meddai’r datganiad gan Kevin Madge.

“Rwy’n croesawu ymchwiliad yr heddlu a fydd yn cynnig y  sicrwydd y mae’r cyhoedd yn ei haeddu.

“Nid yw’r Archwilydd wedi cyfeirio ei adroddiadau at yr heddlu ac nid yw’n awgrymu bod  unrhyw gam troseddol wedi cymryd lle. Rwy’n gobeithio gall yr ymchwiliad ddod i ben cyn gynted â phosibl er mwyn i ni fel cyngor symud ymlaen.

“Yn ystod absenoldeb y Prif Weithredwr bydd ei rôl yn cael ei gynnal gan y Dirprwy Brif Weithredwr Mr Dave Gilbert.”

Dywedodd Mark James ei fod yn gwbl sicr nad oedd ef nac unrhyw un o’i swyddogion wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ond nad oedd hi’n briodol iddo ef bod yn y swyddfa tra bod yr heddlu yn cynnal eu hymholiadau.

Mae Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, eisoes wedi beirniadu Kevin Madge am beidio a gwahardd Mark James yn gynt, gan ddweud nad oedd Mr Madge wedi cyflawni dyletswyddau’i swydd ac y dylai ymddiswyddo.