Andrew R T Davies
Mae dros 70% o’r rheiny a bleidleisiodd ar bôl piniwn golwg360 yn credu i Andrew RT Davies wneud penderfyniad doeth wrth ddiswyddo pedwar aelod o’i dîm.
Cafodd Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Janet Finch-Saunders a Mohammed Asghar y sac o feinciau blaen y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ar ôl iddyn nhw wrthod cefnogi’u harweinydd mewn pleidlais.
Dim ond 16% oedd o’r farn bod Mr Davies wedi gwneud camgymeriad yn diswyddo’r pedwar, gyda 12% ddim yn siŵr a oedd wedi gwneud y penderfyniad iawn.
Roedd Andrew RT Davies o blaid cynnig yn y Cynulliad ar ddatganoli pwerau dros dreth incwm i Gymru oedd yn cefnogi gallu amrywio’r lefel o dreth i wahanol fandiau.
Ond dyw Ceidwadwyr Llundain ddim am ganiatáu pwerau i gael eu hamrywio rhwng gwahanol fandiau – ac roedd y pedwar AC a gollodd eu swyddi yn cytuno â’r safbwynt hwnnw.
Dadansoddiad Iolo Cheung
Penderfyniad dewr iawn – a syfrdanol – oedd hi gan Andrew RT Davies i gael gwared â’r pedwar Aelod o’i gabinet cysgodol.
Mae’n ymddangos fod y mwyafrif yn cytuno â phenderfyniad ‘RT’ – wedi’r cwbl, roedden nhw wedi gwrthod ei gefnogi yn gyhoeddus ar fater yr oedd Mr Davies eisoes wedi anghytuno ag Ysgrifennydd Gwladol Torïaidd Cymru David Jones yn ei gylch.
Felly gosod ei stamp, fel arweinydd cryf? Neu rwygo’i blaid yn ddiangen?
Mewn gwirionedd mae’r math o bwerau treth incwm y mae Mr Davies yn ei gefnogi’n fersiwn llawer mwy hyblyg – cryfach hyd yn oed – na’r un mae Llywodraeth Llundain yn ei gynnig.
Felly ai cymeradwyo Andrew RT Davies am fod eisiau datganoli pellach oedd rhai o’r 71% a ddywedodd fod ei benderfyniad yn un doeth?
Mae lle wrth gwrs i ddadlau nad oedd hwn yn benderfyniad call ganddo – mae’r ffrae rhyngddo ef a Cheidwadwyr Llundain dros y pwnc bellach yn un gwbl agored (os nad oedd o eisoes).
Mae’n rhoi ef mewn safle bregus fel arweinydd o ystyried bod traean o’i Aelodau Cynulliad hefyd yn gwrthwynebu’i safbwynt.
Ac a fydd hynny werth y drafferth, o ystyried mai pleidlais oedd hon ar fater technegol o ddatganoli pŵer fydd o bosib ddim yn cael ei basio am flynyddoedd eto a hyd yn oed wedyn ddim yn cael ei ddefnyddio? Gambl yn sicr, Mr Davies.
Canlyniadau
A wnaeth Andrew RT Davies benderfyniad doeth yn diswyddo pedwar aelod o’i dîm?
Do – 71.23%
Naddo – 16.44%
Ddim yn siŵr – 12.33%