Fe fydd trafodaethau i geisio datrys yr anghydfod sydd wedi arwain at ail ddiwrnod o streicio gan weithwyr ar drenau tanddaearol Llundain yn cael eu cynnal yfory.

Mae aelodau o undebau RMT a TSSA yn protestio yn erbyn cau swyddfeydd tocynnau.

Fe fydd y streic 48 awr yn dod i ben am 9yh heno, gyda streic arall wedi’i threfnu ar gyfer wythnos nesaf os nad yw’r trafodaethau’n llwyddo.