Mae miliynau o deithwyr yn wynebu trafferthion heddiw am fod gweithwyr ar system drenau tanddaearol Llundain ar streic.
Roedd aelodau o undebau RMT a TSSA wedi cerdded allan o’u gwaith am 9yh neithiwr am 48 awr mewn protest yn erbyn cau swyddfeydd tocynnau, gan arwain ar gannoedd o ddiswyddiadau.
Cafodd gwasanaethau eu heffeithio neithiwr ar ôl i’r streic ddechrau ac mae disgwyl i’r trafferthion barhau heddiw.