Mathau o e-sigarennau (izord CCA3.0)
Mae’n edrych yn debyg y bydd pobol ifanc dan 18 oed yng Nghymru yn cael eu gwahardd rhag defnyddio e-sigarets.

Fe bleidleisiodd aelodau’r Cynulliad i gynnwys Cymru yn narpariaethau mesur sy’n mynd trwy San Steffan ar hyn o bryd ar gyfer Lloegr.

Os bydd hwnnw’n cael ei basio, fe fydd yn golygu mai dim ond pobol dros 18 oed fydd â’r hawl i ddefnyddio’r sigarennau sy’n cynnwys nicotin ond nid tybaco.

Maen nhw’n defnyddio batri trydan i anweddu’r sylwedd yn fwg, a hwnnw’n gallu cynnwys pob math o flasau gwahanol.

Fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, nad oedd am weld pobol ifanc yn defnyddio’r e-sigarennau ac, efallai, yn troi at smocio sigarets go iawn.

Dyw meddygon ddim yn gwbl sicr pa mor ddiogel yw e-sigarennau ond y farn gyffredinol yw eu bod yn fwy diogel na baco.