Ysbyty Treforys yn Abertawe
Mae tair ward yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Treforys ynghau oherwydd achosion o’r salwch stumog, norofirws.

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn galw ar bobl i gadw draw os ydyn nhw wedi cael symptomau yn ystod y 48 awr ddiwethaf, gan y gall yr haint ledaenu’n hawdd.

Dywedodd Dr Push Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol y bwrdd, fod y norofirws yn gallu bod yn beryglus i’r henoed, plant a phobl gyda chyflyrau iechyd fel clefyd y siwgr.

“Mae dwy ward ynghau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ar hyn o bryd. Mae hyn yn ofnadwy i’r cleifion, ac mae o hefyd yn golygu na all eu teuluoedd a ffrindiau ymweld â nhw.

“Os ydych yn sâl, mae’n bwysig  yfed digon o ddŵr ac mae’r rhan fwyaf o bobol yn gallu aros adref i wella.”

Mae’r haint wedi lledu yn ysbytai de ddwyrain Cymru’r gaeaf hwn. Wythnos diwethaf, roedd dau ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd  Caerdydd a’r Fro hefyd wedi’u heffeithio gan achosion o’r haint.