Eisteddfod Genedlaethol
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cychwyn prosiect ymchwil sy’n edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc o 10-15 oed.

Bwriad yr ymchwil, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y gwanwyn, yw ystyried beth sydd eisoes ar gael, trafod beth sy’n apelio at yr oedran a sut y gellir diwallu hyn yn yr Eisteddfod.

Mae’n dilyn ymchwil blaenorol gan yr Eisteddfod a wnaeth arwain at ddatblygu prosiectau newydd fel Caffi Maes B ar y Maes.

‘Cwmpas oed cymhleth’

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts:

“Yn sicr, mae hwn yn gwmpas oedran cymhleth ac eang ac yn gyfnod sy’n pontio rhwng bod yn blentyn ac yn berson ifanc felly mae’n bwysig ein bod yn ystyried anghenion yr oedran hwn yn ofalus.

“Byddwn yn cynnal grwpiau ffocws, cyfarfodydd ac yn rhedeg holiadur ar-lein dros yr wythnosau nesaf.  Byddwn hefyd yn holi criwiau o bobl ifanc, yn ogystal â rhieni a rhai o’n partneriaid allweddol sydd â phrofiad o weithio gyda’r oedran hwn.

“Bydd ein grwpiau ffocws yn canolbwyntio ar y rheini sydd eisoes yn mynychu’r Eisteddfod, er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i ddyheadau ein hymwelwyr selog.”