Elin Fflur fydd yn cyflwyno eto
Mae S4C wedi cyhoeddi’r rhestr fer o chwech fydd yn cystadlu am wobr Cân i Gymru 2014 – a gwobr gwerth £3,500.

Ymysg y cyfansoddwyr fydd yn gobeithio dod i’r brig eleni mae Gwilym Rhys, prif ganwr Bandana fydd yn perfformio gyda’i fam Siân Harries, a’r gantores Kizzy Crawford sydd wedi gwneud enw i’w hun yn y sin dros y ddwy flynedd diwethaf.

Hefyd yn cystadlu bydd Barry Evans o fand y Moniars a’i ferch Mirain; y cerddor Gruff Siôn Rees; band Y Cledrau o ardal Bala; a dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor, Ifan Davies a Gethin Griffiths.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal mewn lleoliad newydd eleni, ym Mhafiliwn Môn yng Ngwalchmai ar nos Wener 28 Chwefror, gyda’r gantores leol a chyn-enillydd Cân i Gymru Elin Fflur yn un o’r cyflwynwyr.

Ac fe fydd pob un o’r chwe chyfansoddwr neu dîm cyfansoddi ar y rhestr fer yn derbyn hyd at £900 i’w wario ar dreulio amser mewn stiwdio o’u dewis a pharatoi’r gân ar gyfer y rownd derfynol.

Roedd panel y rheithgor a ddewisodd y caneuon i fynd ar y rhestr fer yn cynnwys y cerddor Siôn Llwyd ac enillwyr tlws 2013 Osian Williams a Rhys Gwynfor o fand Jessops a’r Sgweiri.

Cân fuddugol y llynedd gan Jessops a’r Sgweiri:

Ar y panel hefyd roedd Alys Williams fu’n cystadlu ar raglen BBC The Voice ac sydd wedi perfformio ar Gân i Gymru yn y gorffennol, y gantores o Gwm Gwendraeth Gwenda Owen, a Neil ‘Maffia’ Williams o’r grŵp roc Maffia Mr Huws.

Wrth ymateb i’r caneuon a gafodd eu dewis ar gyfer y rhestr fer dywedodd Siôn Llwyd, a gadeiriodd y panel, fod y ceisiadau diweddaraf yn dangos bod cerddoriaeth Gymraeg yn iach o hyd.

“Eleni mae croestoriad eang o ganeuon wedi cyrraedd y brig ac mae’n galonogol, wrth weld yr enwau, mai cyfansoddwyr a pherfformwyr ifanc sydd wrth wraidd y caneuon i gyd,” meddai Siôn Llwyd. “Mae hyn yn braf ei weld ac yn arwydd iach ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg.”

Bydd Siôn Llwyd yn trafod y dewisiadau ar raglen C2 Ifan Evans heno am 7yh.

Y caneuon a’r cyfansoddwyr ar gyfer Cân i Gymru 2014:

Aderyn y Nos – Gruff Siôn Rees: Cerddor a chyfansoddwr sydd hefyd yn gweithio fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu, yn wreiddiol o Ddyffryn Aman ond bellach yn byw yng Nghaerdydd

Agor y Drws – Joseff Owen, Marged Edwards, Ifan Edwards ac Alun Roberts: pedwar aelod band ifanc Y Cledrau o ardal Y Bala

Ben Rhys – Gwilym Bowen Rhys a Siân Harries: Dyma’r ail dro i Gwilym, prif ganwr Bandana, a’i fam, Siân, gyrraedd rhestr fer Cân i Gymru ar ôl iddyn nhw gystadlu yn 2012

Brown Euraidd – Kizzy Meriel Crawford: Y ferch 17 oed o Ferthyr Tydfil sydd wedi ennill bri am ei chaneuon unigryw yn y Gymraeg a’r Saesneg

Dydd yn Dod – Ifan Davies a Gethin Griffiths: Dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor sy’n perfformio’n gyson mewn nosweithiau meic agored

Galw Amdanat Ti – Barry a Mirain Evans: Mae Barry yn aelod o grŵp gwerin Y Moniars a dyma’r tro cyntaf iddo gyfansoddi gyda’i ferch Mirain