Fred Talbot yn cyflwyno'r tywydd ar ITV
Mae’r cyflwynydd tywydd Fred Talbot wedi cael ei gyhuddo o gyfres o droseddau rhyw yn dilyn ymchwiliad i achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol, meddai heddlu Manceinion.
Mae Talbot, 64, wedi’i gyhuddo o naw achos o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o sodomiaeth.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud a cham-drin rhywiol honedig yn erbyn pump o bobl – roedd tri ohonyn nhw o dan 16 oed ar y pryd.
Mae disgwyl i Talbot fynd gerbron Llys Ynadon Manceinion ar 11 Chwefror.
Daeth Fred Talbot i amlygrwydd am gyflwyno’r tywydd ar raglen ITV This Morning o Doc Albert yn Lerpwl.