Dim ond 24% o’r moch daear yn ne orllewin Lloegr sydd wedi eu lladd o dan gynllun peilot Llywodraeth Prydain – ac fe allai hynny ddylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru.
Mae hynny bron dair gwaith yn llai na’r targed o 70% yn yr ardal yng ngorllewin Gwlad yr Haf a Swydd Caerloyw.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn amcangyfrif fod y saethu wedi costio tua £4.5 miliwn yn y ddwy ardal, yn rhan o’r ymdrech i geisio atal diciâu ymhlith gwartheg.
A hyd yn oed ar ôl estyn amser y cynllun, wnaethon nhw ddim taro’r targedi.
Cais Rhyddid a Gwybodaeth
Fe ddangosodd Cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth beth oedd y ffigurau:
- Mai 360 o blith 1,450 o foch daear yng Ngwlad yr Haf wedi eu difa mewn cyfnod o chwech wythnos, gyda rhai wedi eu dal mewn trapiau hefyd.
- Cafodd 543 o 2,350 eu lladd mewn chwech wythnos yn Swydd Gaerloyw, a 165 eu dal mewn trap.
Am fod llai o’r anifeiliaid na’r disgwyl wedi cael eu lladd yn y cyfnod o chwech wythnos, fe gafodd y cynllun ei ymestyn am dair wythnos ychwanegol.
Gan gynnwys y tair wythnos ychwanegol, y cyfanswm a gafodd eu lladd oedd 40% yn Swydd Gaerloyw a 65% yng Ngwlad yr Haf.
Beirniadaeth
Mae’r Ysgrifennydd Amgylchedd yn San Steffan, Owen Patterson, yn dweud bod y cynllun yn llwyddiannus, ond mae mudiadau byd natur yn dweud bod y ffigyrau diweddaraf yn tanseilio’r honiadau hynny.
“Mae unrhyw awgrym fod y cynllun wedi bod yn llwyddiant yn gamarweiniol iawn” meddai Dominic Dyer o Care for the Wild.
“Mae Owen Patterson yn honni fod 60% o’r moch daear wedi cael eu lladd ond dydy o ddim y cyfaddef fod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi eu lladd gyda thrap – rhywbeth nad oedd y cynllun yn ei brofi.”