William Roache
Mae’r rheithgor yn achos actor Coronation Street, William Roache, wedi clywed ei fod wedi dweud wrth dditectifs bod treisio merch “yn mynd yn groes i’w natur”.
Dywedodd Roache, 81 oed, ei fod yn “berson heddychlon iawn” ac na “fyddai fyth wedi gwneud unrhyw felly.”
Cafodd yr actor, sy’n chwarae rhan Ken Barlow yn y gyfres sebon ar ITV, ei arestio yn ei gartref yn Wilmslow, Sir Gaer ym mis Mai’r llynedd.
Clywodd Llys y Goron Preston fod yr actor wedi “synnu” ac mewn sioc ar ôl i dditectifs ddweud wrtho ei fod wedi’i gyhuddo o dreisio merch 15 oed yn ei gyn gartref yn Swydd Gaerhirfryn ym 1967.
Mae’r ferch yn honni iddi gael ei threisio mewn dau leoliad gan Roache.
Dywedodd yr actor wrth dditectifs nad oedd yn gyfarwydd gydag enw’r ferch sydd wedi ei gyhuddo ac y byddai wedi cofio petai rywbeth felly wedi digwydd.
Ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ddau achos o dreisio, roedd y cyhoeddusrwydd wedi arwain at bedair dynes arall yn mynd at yr heddlu i ddweud ei fod wedi ymosod yn anweddus arnyn nhw.
Mae Roache yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn yn ymwneud a phump o ferched oedd yn 16 oed neu’n ieuengach rhwng 1965 a 1971.