Dan Amor
Mae’n ymddangos bod yr ysbryd o haelioni diweddar ymysg artistiaid Cymru yn parhau, gyda Dan Amor ymhlith y diweddaraf i ryddhau’i draciau newydd am ddim i’w lawrlwytho.

Ond nid jyst ambell i gân Nadoligaidd mo’r rhain – ond albwm cyfan sydd wedi cymryd tua blwyddyn i’r artist o Benmachno ei recordio.

Mae 11 trac i gael ar ‘Rainhill Trials’, sydd wedi’i ryddhau ar ei label recordiau Cae Gwyn unwaith yn rhagor, ac fe ddywedodd Dan Amor ei fod yn gyfle iddo dalu’n ôl i’w ffans ffyddlon dros y blynyddoedd.

“Mae’r albwm newydd yn rhoi cyfle i’r bobl sydd wedi fy nghefnogi i a’r label dros y blynyddoedd i lawrlwytho rhywbeth am ddim,” esboniodd Dan wrth golwg360. “Presant, os licia di.

“Mae’r albwm yn gyfuniad o ganeuon Cymraeg a Saesneg – dyna dwi’n tueddu i sgwennu beth bynnag wrth feddwl nôl dros yr albwms blaenorol.

“Dwi’n hapus iawn efo ‘Rainhill Trials’ – mae’n gasgliad o ganeuon sy’n ffitio at ei gilydd yn dda iawn. Dwi’n hapus efo llif yr albwm hefyd, mae’n rhedeg fel stori o’r dechrau i’r diwedd.”

Cefnogaeth grant

Roedd recordio a chynhyrchu ‘Rainhill Trials’ yn rhan o brosiect Cynefin Cae Gwyn i label record Dan Amor, rhywbeth a fu’n allweddol wrth helpu’r albwm i weld golau dydd.

Mae eisoes wedi rhyddhau tri albwm – Lakeside, Neigwl, ac Adlais – ar y label, gydag artistiaid megis Sen Segur, Mr Huw a Tom ap Dan hefyd yn rhyddhau recordiau gyda Cae Gwyn.

Dywedodd Dan Amor fod cerddorion Cymru’n wynebu dyfodol mwy heriol wrth geisio creu eu cynnyrch yn sgil dyfarniad breindaliadau Eos.

“Ges i grant gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i helpu i ddatblygu’r label sydd wedi bod yn gymorth gyda recordio a hyfforddiant, a galluogi ni i brynu offer recordio,” esboniodd Dan.

“Mae’r cymorth yn mynd i helpu ni i fod yn fwy hunangynhaliol yn y dyfodol, fel artistiaid a label.

“Mae’n mynd i fod yn anoddach, ond nid yn amhosib, i artistiaid [yn sgil dyfarniad Eos] – mae marchnata yn mynd i fod yn fwy pwysig o hyn ymlaen.”

A does dim gorffwys i’w weld i Dan Amor yn y dyfodol agos chwaith, rhwng sesiynau a chyfweliadau gan gynnwys gig yn nhafarn yr Hope & Anchor, Islington yn Llundain nos Sadwrn yma – yn ogystal â deunydd newydd ar y gweill.

Gallwch wrando ar a lawrlwytho ‘Rainhill Trials’ wrth ddilyn y linc yma.