Mikaeel Kular
Fe fydd mam Mikaeel Kular yn ymddangos yn y llys heddiw mewn cysylltiad â marwolaeth y bachgen 3 oed.

Mae disgwyl i Rosdeep Kular, 33 oed, ymddangos gerbron Llys Siryf Caeredin.

Daeth adroddiadau bod Mikaeel wedi diflannu o’i gartref yng Nghaeredin ddydd Iau, gan arwain at ymdrech fawr gan yr heddlu i ddod o hyd iddo. Roedd  cannoedd o wirfoddolwyr wedi ymuno a’r heddlu i chwilio amdano.

Cafwyd hyd i weddillion ei gorff yn ddiweddarach nos Wener, mewn coedlan 25 milltir i ffwrdd yn Kirkcaldy, Fife.

Nos Sadwrn, dywedodd Heddlu’r Alban bod dynes 33 oed wedi cael ei harestio a’i chyhuddo mewn cysylltiad â’i farwolaeth.

Daeth 500 o bobl i wasanaeth coffa nos Sadwrn, mewn eglwys lai na milltir o’r cartref lle’r oedd Mikaeel yn byw gyda phedwar o’i frodyr a chwiorydd.