Mikaeel Kular - llun newydd gan yr heddlu sy'n ei ddangos yn y got yr oedd yn ei gwisgo pan ddiflannodd
Mae gwasanaethau brys yng Nghaeredin yn parhau i chwilio am fachgen tair oed, ond does dim gwybodaeth newydd amdano ddiwrnod a hanner ers iddo ddiflannu.

Maen nhw’n apelio ar i bobol gadw llygad am Mikaeel Kular mewn adeiladau gwag a cheir.

Mae Heddlu’r Alban wedi lansio Ymgyrch Achub Plentyn, sydd fel arfer yn cael ei defnyddio pan fydd plentyn wedi cael ei herwgipio.

Maen nhw’n pryderu am y tymheredd oer ar hyn o bryd, gan ddweud y gall y bachgen bach fod yn ceisio cael lloches yn rhywle.

Diflannu

Fe ddiflannodd Mikaeel Kular o’i gartref yn Ferry Gait Crescent, Caeredin, tua 9 nos Fercher, ar ôl i’w fam ei roi yn ei wely.

Bore ddoe y sylweddolodd hi ei fod ar goll ar ôl methu â dod o hyd iddo yn y fflat.

Mae hofrennydd yr heddlu, cŵn heddlu, gwylwyr y glannau a thimau bad achub yn rhan o’r ymgyrch i ddod o hyd iddo, yn ogystal â channoedd o bobol leol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw’n defnyddio eu holl adnoddau er mwyn ceisio dod o hyd i’r bachgen.

Mae’r heddlu’n gofyn i drigolion lleol fod yn wyliadwrus ac i chwilio yn eu gerddi,  siediau a’u ceir rhag ofn fod Mikaeel Kular yn cael lloches yno.