Mae dwy ddynes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud a therfysgaeth yn dilyn dau gyrch gan yr heddlu.
Cafodd un ddynes 26 oed ei harestio ym maes awyr Heathrow tua 9.20yb bore ma wrth i blismyn ei hatal rhag mynd ar awyren oedd yn teithio i Istanbwl yn Nhwrci.
Cafodd ei harestio ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â gweithredoedd terfysgol a daeth yr heddlu o hyd i “swm sylweddol” o arian.
Yn ddiweddarach cafodd dynes 27 oed ei harestio ar amheuaeth o’r un drosedd yng ngogledd orllewin Llundain.
Mae’r ddwy bellach yn cael eu holi.
Dywed Scotland Yard bod y ddwy wedi’u harestio o ganlyniad i gudd wybodaeth yn hytrach nag ymateb i fygythiad neu risg.