Mae bron i 1,000 o athrawon wedi cael eu cyhuddo o gael perthynas gyda disgybl yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn ôl gwaith ymchwil.

O’r rhai, dim ond un o bob pedwar oedd wedi cael eu cyhuddo gan yr heddlu.

Mae’r ffigurau, sydd wedi dod i law BBC Newsbeat yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, yn dangos bod o leiaf 959 o athrawon a staff eraill mewn ysgolion wedi’u cyhuddo o gael perthynas amhriodol gyda disgybl rhwng 2008 a 2013.

Ond mae undebau athrawon yn dweud bod y rhan fwyaf o’r achosion wedi cael eu gwrthbrofi.

Serch hynny dywed yr elusen blant yr NSPCC y gallai’r ffigwr fod yn llawer uwch.