Mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn cael trafferth sicrhau fod busnesau yn cydymffurfio hefo rheolau diogelwch bwyd, flwyddyn ar ôl yr helynt cig ceffyl.
Mae ymchwil gan y corff craffu Which? wedi dangos nad ydy dros draean o fusnesau bwyd yn dilyn rheolau glendid. Maen nhw hefyd yn dweud fod busnesau yn “anghyson” wrth brofi safonau bwyd, fel cywirdeb y labeli ar y cynnyrch.
Dywedodd y sefydliad fod yr adroddiad yn ennyn amheuaeth yn y diwydiant bwyd ar ôl y sgandal cig ceffyl y llynedd.
‘Rhaid cael agwedd strategol’
Cafodd safonau bwyd eu profi mewn ysbytai, cartrefi gofal, bwytai, siopau a chyflenwyr bwyd, a’r awdurdod lleol gwaethaf am beidio dilyn rheolau bwyd oedd Bexley yn ne ddwyrain Llundain.
Mae glendid bwyd wedi ei selio ar ffactorau fel y ffordd y mae’r bwyd yn cael ei drin, y math o fwyd a’r nifer sydd o dan risg o fwyta’r bwyd.
Dywedodd cyfarwyddwr Which?, Richard Lloyd:
“Does ’na neb eisiau gweld helynt cig ceffyl eto, felly mae hi’n bryderus iawn fod safonau bwyd awdurdodau lleol yn isel.
“Rydym ni eisiau gweld agwedd fwy strategol i reoli safonau bwyd a fydd yn gwneud y gorau o adnoddau ac yn ymateb yn effeithiol i’r sialensiau sy’n wynebu’r gadwyn cyflenwi bwyd”.