Alun Davies
Mae’r gweinidog sy’n gyfrifol am amaeth wedi addo’r newid mwya radical ers degawdau yn y ffordd y mae ffermwyr yn cael grantiau.

Ond mae hynny wedi codi ofn ymhlith ffermwyr mynydd llai ffyniannus y byddan nhw’n colli arian – yn enwedig ffermwyr tir uchel – mae’r undebau’n poeni y gallai rhai taliadau ostwng hyd at 20%.

Fe fydd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies, yn gwneud cyhoeddiad yn y Cynulliad y prynhawn yma am batrwm y sybsidis i ffermwyr tros y chwe blynedd nesa’ rhwng 2014 a 2020.

Mae wedi addo y bydd yr arian yn cael ei ganolbwyntio ar helpu ffermwyr i gynyddu busnesau proffidiol.

Y syniad y tu cefn i’r newid

“R’yn ni’n mynd i ailstrwythuro’r gefnogaeth i ffermio yng Nghymru – y newid mwya’ radical mae’n debyg ers degawdau,” meddai Alun Davies wrth Radio Wales.

“R’yn ni’n mynd i wneud cyfres o fuddsoddiadau i wneud amaeth yn fwy effeithiol ac yn fwy cynhyrchiol yn y dyfodol.

“Yr hyn yr ’yn ni’n ceisio’i wneud yw buddsoddi yn nhwf busnesau a rheoli’r ddaear mewn ffordd fwy effeithiol.”

‘Teg’

Y nod, meddai Alun Davies, oedd sicrhau bod ffermio yng Nghymru’n gallu goroesi a pharatoi at doriadau pellach mewn arian o Ewrop yn 2020.

Fe ddywedodd Alun Davies y byddai’n rhaid bod “yn deg at bobol” ond fe soniodd am un o bob tri fferm dir mynydd sy’n llawer mwy proffidiol na’r gweddill.

“Dyw hyn ddim yn ymwneud â gadael i fusnesau fethu,” meddai. “Mae’n ymwneud â gadael i fusnesau lwyddo.”

Y cefndir

Fe wnaeth Alun Davies ddatganiad llafar i Aelodau’r Cynulliad ym mis Tachwedd y llynedd  am gyllideb Polisi Amaethyddol Cyffredinol (CAP) yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y chwe blynedd nesaf.

Fe fydd Cymru’n derbyn €2.245 biliwn o daliadau uniongyrchol i ffermydd a €355 miliwn ar gyfer cynlluniau datblygu gwledig.

Mae undebau’r ffermwyr eisoes yn cwyno am fod Alun Davies wedi penderfynu rhoi 15% o’r holl sybsidi at gynlluniau amgylcheddol a chefn gwlad yn hytrach na chefnogaeth uniongyrchol i ffermydd – cyfran uwch nag yng ngweddill gwledydd Prydain.