Mi fydd cynghorwyr yn trafod cynlluniau dadleuol i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ger Rhuthun heddiw.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu cau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ar 31 Awst 2014, a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun.
Ym mis Tachwedd 2012 roedd 21 o blant yn yr ysgol a 56 o lefydd gweigion, ond mae dadleuon fod nifer y disgyblion yn codi.
Fframwaith Polisi Moderneiddio Addysg
Fe wnaeth Cabinet y Cyngor fabwysiadu Fframwaith Polisi Moderneiddio Addysg ym mis Ionawr 2009 i ddarparu llwyfan ar gyfer adolygu darpariaeth bresennol ysgolion a moderneiddio addysg,
“ Mae CSDd yn ymroddedig i ddarparu addysg o’r radd flaenaf i holl blant a phobl ifanc y Sir,” meddai’r cyngor.
“Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae’r cyngor wedi cytuno bod moderneiddio’r ddarpariaeth addysg yn flaenoriaeth gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cael adeiladau ysgol, amgylchfyd dysgu ac adnoddau sy’n diwallu anghenion Cymru’r 21ain ganrif.”