Collodd y Ceidwadwyr dwy o’u seddi cyngor yn Lloegr mewn isetholiadau ddoe – gydag UKIP yn llwyddo i gipio un ohonynt.
Sicrhaodd Tony Brown o UKIP ei le ar Gyngor Suffolk ar ôl buddugoliaeth ysgubol yn ward St Edmunsbury Borough yn Nwyrain Haverhill, gyda’r Ceidwadwyr yn cwympo i’r trydydd safle y tu ôl i Lafur.
Bydd UKIP yn ystyried y canlyniad yn un da arall, wrth iddyn nhw obeithio am ganlyniad cryf yn yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai – gyda rhai sylwebyddion gwleidyddol yn credu fod ganddyn nhw siawns o ennill y bleidlais ar draws Ynysoedd Prydain.
Cipiwyd ail sedd Dorïaidd gan yr ymgeisydd annibynnol Mike Taylor, a lwyddodd i ennill yn Borough Green a Long Mill yn Tonbridge a Malling Borough, Swydd Caint.
Mewn isetholiad arall, fe gadwodd Llafur sedd De Swinton yn Ninas Salford er gwaethaf cynnydd bychan ym mhleidlais y Ceidwadwyr.
Canlyniadau:
St Edmundsbury Borough – Dwyrain Haverhill: Ukip 529, Llafur 240, Ceidwadwyr 157, Dem Rhydd 54.
Salford City – Swinton South: Llafur 661, Ceidwadwyr 298, Ukip 215, Gwyrdd 196, Democratiaid Saesnig 54, Undebwyr a Sosialwyr yn erbyn Toriadau 43.
Tonbridge a Malling Borough – Borough Green a Long Mill: Annibynnol 692, Ceidwadwyr 588, Ukip 349, Llafur 84, Gwyrdd 68.