Protestio am ddyfodol Ysbyty Bronglais tu allan i Senedd Cymru
Mi fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth am 7:30 heno er mwyn trafod darpariaeth iechyd yn y canolbarth.
Mae pryder ynglŷn â dyfodol y gwasanaethau iechyd gan fod yr ardal yn ei chael hi’n anodd penodi doctoriaid a meddygon teulu i weithio yno, yn benodol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Bydd y penderfyniad i gau Ysbyty Cymunedol Aberteifi hefyd yn bwnc llosg.
Mae’r cyfarfod yn cael ei drefnu gan Gyngor Tref Aberystwyth a daw yn sgîl penderfyniad Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford i ofyn am adroddiad am ddyfodol y gwasanaethau iechyd yn yr ardal.
Llythyr gan Mark Drakeford
Mae disgwyl i Elin Jones AC Ceredigion fod yn y cyfarfod ynghyd â Maer Aberystwyth, Wendy Morris-Twiddy.
Bydd llythyr gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn cael ei ddarllen ac yna bydd gan aelodau’r cyfarfod hawl i holi unrhyw gwestiynau pellach.
Yn ôl swyddfa Cyngor Tref Aberystwyth, mae disgwyl i gannoedd o bobol fod yn Ysgol Penweddig heno.
Fe gafodd gwahoddiad ei estyn i aelodau o Fwrdd Iechyd Hywel Dda fynychu’r cyfarfod, ond fe wrthodwyd y cynnig, meddai Swyddfa Cyngor Tref Aberystwyth.