Mark Carney, Llywodraethwr Banc Lloegr (llun PA)
Mae arbenigwyr yn proffwydo y bydd rhaid i Fanc Lloegr newid eu targedau o ran codi cost benthyg arian.
Fe allai hynny ddigwydd o fewn mis, meddai rhai, wrth i’r Banc benderfynu unwaith eto i gadw cyfraddau llog ar eu hisa’ erioed – 0.5%.
Cyn hyn, mae pennaeth y Banc, Mark Carney, wedi awgrymu y gallai cyfraddau ddechrau codi eto pan fydd diweithdra trwy wledydd Prydain i lawr i 7%.
Ond, gyda’r ffigwr bellach ar 7.4%, mae arbenigwyr economaidd yn awgrymu y bydd rhaid gosod y nod yn is ac na fydd cyfraddau’n codi’n fuan.
Fydd dim newid tan ail hanner 2015 yn ôl un o benaethiaid banc o Societe Generale ac mae Siambrau Masnach Prydain wedi galw ar i’r Banc anwybyddu galwadau am gyfraddau uwch.