Dr Charlotte Jones (o wefan y BMA)
Mae meddygon teulu Cymru yn hapus gyda’r cytundeb newydd rhyngddyn nhw a’r Llywodraeth, meddai’r gymdeithas sy’n eu cynrychioli.

Ac mae eu llefarydd wedi cydnabod bod meddygon weithiau’n galw cleifion i mewn er mwyn cyrraedd targedau.

Roedd Cymdeithas Feddygol Prydain – y BMA – yn arbennig o falch o’r bwriad i dorri rhai o’r targedau biwrocrataidd oedd yn pwyntiau iddyn nhw am gyflawni rhai tasgau er mwyn cael eu harian.

Mae Cymru wedi mynd ymhellach i’r cyfeiriad hwnnw na Lloegr na’r Alban.

‘Ticio bocsys diangen’

“Mae cael gwared ar y pwyntiau QAF yn golygu nad oes angen i feddygon teulu fynd ar ôl targedau ticio bocsys diangen,” meddai Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru. “Mae’n dda bod y Llywodraeth wedi cydnabod hynny.

“Weithiau fe fyddech chi’n cael cleifion yn cael eu galw i mewn jyst er mwyn cyrraedd y targedau yma.”

Clystyru

Mae’n ymddangos hefyd fod y meddygon yn hapus gyda’r syniad o glystyru syrjeris gan ddweud fyddai ardaloedd gwledig Cymru o dan anfantais.

“Mae hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, ac maen nhw wedi bod yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol ar draws Cymru,” meddai Dr Jones.

“Beth mae’r cynllun yma’n ei wneud yw symud pethau ymlaen, a cheisio creu cysondeb. Mae’n waith caled i syrjeris wneud, ond dyma’r ffordd ymlaen.”