Ty'r Cyffredin
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r Aelod Seneddol Llafur, Paul Goggins, a fu farw wythnos ar ôl cael ei daro’n wael wrth redeg.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband ei fod yn ddyn “urddasol, doeth, dyngarol a ffyddlon” a bod ei deulu wedi cael eu “heffeithio’n aruthrol” gan ei farwolaeth.
Bu farw’r Aelod Seneddol 60 mlwydd oed, a oedd yn dal sedd Wythenshawe a Dwyrain Sale ym Manceinion, neithiwr yn Ysbyty Salford gyda’i wraig Wyn a thri o blant wrth ei ochr.
Mae meddygon yn amau ei fod wedi cael gwaedlif ar yr ymennydd ar ôl llewygu tra’n rhedeg gyda’i fab ar 30 Rhagfyr.
Mewn datganiad a ryddhawyd i bapur newydd y Manchester Evening News, dywedodd ei deulu: “Bu farw Paul Goggins neithiwr yn yr ysbyty yn Salford gyda’i deulu wrth ei ochr. Rydym ni wedi torri’n calonnau.
” Roedd wedi bod yn sâl iawn ers wythnos diwethaf . Mae’r gofal mae wedi ei dderbyn yn Ysbyty Salford wedi bod yn gysur i ni ac ni allwn ddiolch digon i’r staff am hyn.”
Roedd Paul Goggins wedi bod yn Aelod Seneddol ers 1997 a gwasanaethodd fel gweinidog o dan Tony Blair a Gordon Brown .
Ers 2010, mae wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Seneddol ar Gudd-wybodaeth a Diogelwch sy’n goruchwylio gwaith ysbiwyr y DU.
‘Dyn hyfryd’
Dywedodd y cyn Prif Weinidog Tony Blair: “Roedd Paul yn was cyhoeddus rhagorol, yn ddyn hyfryd ac yn ffrind da.”
Dywedodd y cyn Ysgrifennydd Cartref, David Blunkett, a oedd yn gyfaill agos iddo: “Mae pob un ohonom, yn llythrennol, mewn sioc. Roedd yn rhywun a oedd mewn mowld gwahanol i’r gweddill ohonom ni.”
Dywedodd cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Menzies Campbell : “Roedd Paul Goggins yn ymgorffori holl nodweddion AS rhagorol – fel gweinidog ac fel Aelod Seneddol ei etholaeth. Roedd yn drylwyr, yn ymroddedig ac yn broffesiynol .”
Ac fe wnaeth llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, arwain y teyrngedau i Paul Goggins yn y Senedd heddiw gan ddisgrifio’r AS diweddar fel dyn “egwyddorol, huawdl a diflino”.