Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae dyn wnaeth ymosod ar dair dynes gyda’r bwriad o’u treisio wedi cael ei garcharu am oes yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw.

Fe wnaeth Barry Rosedale, 43, o’r Fferi Isaf yn Sir y Fflint ymosod ar y merched rhwng mis Ionawr ac Ebrill y llynedd. Roedd un o’r merched yn feichiog ar adeg yr ymosodiad.

Roedd Barry Rosedale yn dilyn y merched gyda chyllell yn ei feddiant ac yna roedd yn ymosod arnyn nhw cyn eu clymu.

Llwyddodd y tri dioddefwr i atal yr ymosodiadau un ai drwy wrthsefyll Rosedale neu drwy siarad gydag o.