Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi hyd at £1.5m y flwyddyn i helpu i gynnal  Rali GB Cymru  yn 2014 a 2015, yn dilyn llwyddiant y digwyddiad y llynedd i ddenu mwy o wylwyr nag erioed.

Fe orffennodd Rali GB Cymru yn Llandudno ym mis Tachwedd 2013, gyda’r Ffrancwr Sebastien Ogier yn cyrraedd y brig. Daeth y digwyddiad â miliynau o bunnau i economi Cymru a llwyddo i ddenu cynulleidfa deledu o 600 miliwn ledled y byd.

Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, wedi croesawu’r canlyniadau, a heddiw fe gyhoeddodd ei bwriad i roi cymorth ariannol ychwanegol i’r Rali am y ddwy flynedd nesaf er mwyn iddi barhau i lwyddo.

Cefnogaeth
Dywedodd Edwina Hart: “Rali GB Cymru yw un o’n digwyddiadau mwyaf ni.

“Mae’n cael sylw ledled y byd, ac felly rwy’n arbennig o falch bod yr ymdrechion i adfywio’r digwyddiad hwn a denu rhagor o wylwyr a chystadleuwyr wedi dwyn ffrwyth.
“Mae trigolion gogledd a chanolbarth Cymru’n hynod gefnogol o’r Rali, ac yn ôl yr awdurdodau lleol a busnesau’r ardal fe dyfodd y gweithgarwch economaidd yn sgil y Rali.”
Ychwanegodd Andrew Coe, Prif Weithredwr cwmni International Mortor Sports sef trefnwyr y Rali: “Drwy symud i Ogledd Cymru, fe lwyddon ni i adfywio Rali GB Cymru 2013 ac mae gennym gynlluniau cyffrous i ychwanegu at y llwyddiant hwnnw drwy gynnal y Rali GB Cymru fwyaf a gorau erioed  ym mis Tachwedd eleni.

“Mae hi’n fraint cael Elfyn Evans, un o yrwyr rali gorau Cymru, yn cystadlu mewn tîm pencampwriaeth y byd – hwb enfawr arall i Rali GB Cymru a’r sin chwaraeon yng Nghymru.”