Bydd cefnogwr Caerdydd a achubodd blentyn oedd wedi cwympo o dan drên yn westai anrhydeddus yng ngêm gartref nesaf y clwb.

Roedd John Noctor ar ei ffordd i wylio’r Adar Gleision yn chwarae yn erbyn Arsenal ar ddydd Calan pan lithrodd y bachgen bach o’i gadair wthio rhwng y trên a’r platfform yng ngorsaf Gospel Oak, Llundain.

Dringodd John Noctor o dan y cerbyd er mwyn achub y plentyn tra bod pobl eraill yn dal y drysau ar agor er mwyn atal y trên rhag symud i ffwrdd.

Mae’r gŵr 51 oed wedi ei ddisgrifio fel arwr am lwyddo i achub y plentyn, gyda chlwb Caerdydd nawr yn cynnig ei anrhydeddu am ei orchest.

Dywedodd llefarydd ar ran y  clwb: “Yn dilyn y gêm yr erbyn Arsenal rhoddwyd gwybod i ni o weithred ddewr John ar ei ffordd i’r gêm.

“Fe wnaeth ei ddewrder argraff fawr ar bawb yn y clwb, ac felly fe fyddwn ni’n ei wahodd ef a’i deulu i swît y cadeirydd ar gyfer y gêm yn erbyn West Ham.”

Cafodd John Noctor, sydd yn yrrwr bws ac o Lanrhymni yng Nghaerdydd, hefyd ei anrhydeddu gan ei gyflogwyr First Cymru – ac fe fydd yn cael ei gyflwyno i’r dorf yn ystod hanner amser y gêm.

Ond roedd John Noctor yn gyndyn o alw’i hun yn arwr.

“Mae’r bachgen bach yn saff, a dyna’r unig ddiolch yr oeddwn i eisiau yn y bôn,” meddai wrth BBC Wales. “Doeddwn i’n sicr ddim yn disgwyl hyn.

“Fe fuaswn i’n hoffi meddwl y byddai unrhyw un wedi gwneud beth wnes i yn y sefyllfa yna.”