Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.

Cadarnhad

Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Clecs

Mae nifer o glybiau’r Uwch Gynghrair, gan gynnwys Abertawe a West Brom, yn edrych i gystadlu am yr ymosodwr 26 oed o Draeth Ifori, Seydou Doumbia, sydd ar hyn o bryd yn chwarae i CSKA Moscow yn Rwsia (SportDirectNews.com)

Mae adroddiadau o’r Aifft hefyd yn awgrymu bod Abertawe yn edrych i gymryd yr ymosodwr Gedo, sydd ar hyn o bryd ar fenthyg yn Hull, gyda’i glwb Al-Ahly wrthi’n pendroni a ydyn nhw am adael iddo fynd (Hull Daily Mail)

Mae Wayne Hennessey wedi ymddiheuro i gefnogwyr Wolves am wrthod chwarae yn eu gêm ddiwethaf oherwydd ansicrwydd ynglŷn â’i ddyfodol, gyda Crystal Palace a West Ham yn dangos diddordeb yn y golwr (Birmingham Mail)

Mae Caerdydd wedi gorfod oedi cyn cyflwyno Magnus Wolff Eikrem, 23, a Mats Moller Daehli, 18, yn swyddogol, oherwydd trafferthion gyda gwaith papur wrth arwyddo’r ddau (Cardiff City Online)

Caerdydd yw’r ceffylau blaen i arwyddo Wilfried Zaha ar fenthyg os yw Man United yn penderfynu gadael iddo fynd nes diwedd y tymor, ond mae Abertawe hefyd â diddordeb (WalesOnline)

Ond un sydd ddim yn ymddangos fel petai’n mynd i Gaerdydd yw’r Cymro Jonny Williams, gyda chwaraewr canol cae Crystal Palace yn dweud nad yw’n ymwybodol o unrhyw gynnig amdano (Croydon Advertiser)

Ac un fydd yn gadael Caerdydd o bosib fydd Nicky Maynard, gyda QPR a Nottingham Forest yn dangos diddordeb mewn cymryd yn ymosodwr ar fenthyg (Daily Star)

Mae Abertawe wedi cynnal trafodaethau pellach gyda Blackpool ynglŷn ag arwyddo Tom Ince, gyda Monaco hefyd yn dangos diddordeb yn y gŵr 21 oed sydd â’i gytundeb yn dod i ben yn yr haf (BBC Sport)

Mae’r Elyrch wedi cynnig £4m am Ince – hanner y cynnig a wnaeth Caerdydd am yr asgellwr yn ystod yr haf (WalesOnline)

Mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup hefyd yn ystyried arwyddo Iago Aspas o Lerpwl neu Ola John o Benfica oherwydd yr argyfwng anafiadau ymysg ei asgellwyr ar hyn o bryd (South Wales Evening Post)

Bydd rheolwr Wrecsam Andy Morrell yn ceisio arwyddo “un neu ddau” o wynebau newydd yn ystod y mis nesaf – gydag amddiffynwr canol yn flaenoriaeth (Daily Post)

Mae rheolwr Bae Colwyn Frank Sinclair hefyd yn gobeithio ychwanegu enwau newydd i’w garfan wrth iddyn nhw wthio am y gemau ail gyfle – ond mae’n “cadw’i gardiau’n agos i’w frest” (North Wales Pioneer)

Y ffenestr hyd yn hyn

Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg

Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg

Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi

Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg

Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)

Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)

Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)

Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)

Sean Thornton (dim clwb i Bala)

Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)

Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)

Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)

Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)

Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)

Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)