Mae Angharad James wedi cael ei henwi yng ngharfan Tîm y Bencampwriaeth ar gyfer twrnament dan-19 Ewrop a gynhaliwyd yn Ne Orllewin Cymru’r llynedd – yr unig un o dîm Cymru i gael ei dewis.

Cafodd y garfan ei ddewis gan banel UEFA a fu’n gwylio holl gemau’r gystadleuaeth yn ystod Awst 2013, ble’r oedd tîm merched Ffrainc yn fuddugol.

Cafodd gemau’r gystadleuaeth eu chwarae ar Barc y Scarlets a Pharc Stebonheath yn Llanelli, Parc Waun Dew yng Nghaerfyrddin a Stadiwm New Meadow yn Hwlffordd.

Collodd Cymru eu tair gêm grŵp yn y bencampwriaeth gan gynnwys i Ffrainc a Lloegr, y ddau dîm a gystadlodd y rownd derfynol.

Roedd y tîm o’r 22 chwaraewraig a ddisgleiriodd yn yr haf yn cynnwys pump o dîm yr enillwyr, saith o Loegr, pedair o’r Ffindir, tair o’r Almaen, ac un yr un o Norwy a Sweden.

Mae gan Angharad James, 19 oed ac yn enedigol o Hwlffordd yn Sir Benfro, eisoes 22 o gapiau dros dîm merched hŷn Cymru ar ôl chwarae ei gêm gyntaf ar y lefel uchaf yn ddim ond 17 oed.

Ar hyn o bryd mae’r chwaraewraig ganol cae yn chwarae dros Academi Bryste, ar ôl arwyddo o Arsenal yn 2012.

Mae ganddi hefyd 10 cap dros y tîm dan-17, a 25 cap dros y tîm dan-19.