Dwayne Peel
Mae cyn-fewnwr Cymru Dwayne Peel wedi cyhoeddi y bydd yn arwyddo i glwb Bryste ar ddiwedd y tymor, gan ddod a’i gyfnod gyda Sale i ben.

Cyhoeddodd Bryste heddiw fod Peel, sydd bellach yn 32 oed, am ymuno a nhw ar gytundeb o ddwy flynedd o dymor 2014/15 ymlaen.

“Mae penderfyniad Dwayne i ymuno a ni yn wych i’r clwb ac yn arwydd o’r cyfeiriad yr ydym ni eisiau mynd,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi Bryste Andy Robinson.

“Mae ganddo brofiad eithriadol o dros ddegawd ar frig y gêm broffesiynol – mae hynny’n brawf o agwedd a gwaith caled Dwayne.”

Dywedodd Peel ei fod edrych am her newydd yn ei yrfa wrth symud clybiau.

“Rwyf wrth fy modd yn ymuno a Bryste a chymryd y sialens newydd yma yn fy ngyrfa,” meddai Peel. “Mae yna awch yma i gyflawni pethau. Mae Bryste yn glwb gydag uchelgais a gweledigaeth glir o ble maen nhw am fynd – fe apeliodd hynny ataf.”

Gadawodd Peel y Scarlets yn 2008 ar ôl pum mlynedd gyda’r rhanbarth, ar ôl ymuno o glwb Llanelli RFC.

Ond ar ôl pum mlynedd gyda Sale, ac yntau’n tynnu tuag at ddiwedd ei yrfa, mae’n ymddangos yn bur debygol y gall Peel nawr orffen ei yrfa broffesiynol yn Lloegr yn hytrach na dychwelyd i Gymru.

Enillodd Peel yr olaf o’i 76 cap dros Gymru ers 2009, gyda’r mewnwr yn canfod ei gyfleoedd rhyngwladol yn brin wedi i Warren Gatland gymryd yr awenau fel rheolwr.

Roedd yn rhan o garfan Cymru a gipiodd Camp Lawn yn 2005 a 2008, gan chwarae rhan allweddol yn y cyntaf o’r rheiny, yn ogystal ag ennill tri chap dros y Llewod yn ystod y daith i Seland Newydd yn 2008.