Cadarnhad
Leroy Lita – Brighton i Abertawe (dychwelyd o fenthyg)
Clecs
Dyw’r cefnwr chwith 19 oed Andy Robertson ddim mewn brys i adael Dundee United ar hyn o bryd, er gwaethaf diddordeb gan Abertawe ag Everton (STV.tv)
Mae Caerdydd yn dangos diddordeb mewn arwyddo amddiffynwr Newcastle Steven Taylor, sydd bellach wedi dychwelyd o anaf (Daily Mail)
Mae’n ymddangos fod yr Adar Gleision hefyd yn agosau at arwyddo Mame Biram Diouf o Hannover, ar ôl i’r ymosodwr fethu sesiwn hyfforddi – fe chwaraeodd o dan oruchwyliaeth Solskjaer yn Man United a Molde (Soccernews.com)
Mae nifer o glybiau Uwch Gynghrair Lloegr gan gynnwys Abertawe, Everton, Fulham a West Brom wedi dangos diddordeb yn arwyddo chwaraewr canol cae Hamburg Tomas Rincon, 25, ar ôl i’r gŵr o Venezuela wrthod arwyddo cytundeb newydd (Sky Sports)
Mae Abertawe hefyd wedi dangos diddordeb yn yr asgellwr 21 oed o’r Iseldiroedd Ola John, sydd ar hyn o bryd gyda Benfica – ond mae Ajax a Lerpwl o’u blaenau nhw yn y ras am ei lofnod (101greatgoals)
Bydd Caerdydd yn cyflwyno Magnus Wolff Eikrem a Mats Moller Daehli yn swyddogol heddiw, ar ôl i’r ddau ohonynt gael prawf meddygol gyda’r clwb ddoe (WalesOnline)
Mae rheolwr Crystal Palace Tony Pulis wedi rhoi’r gorau i ymdrechion i ail-arwyddo Wilfried Zaha ar fenthyg o Man United, gyda Chaerdydd a Newcastle yn arwain y ras (Croydon Advertiser)
Mae disgwyl i chwaraewyr canol cae Caerdydd Filip Kiss gael ei anfon ar fenthyg i Ross County am weddill y tymor, gyda’r ddau glwb yn agos i gytundeb (Vital Football)
Ond does dim disgwyl i Kevin McNaughton a Joe Mason gael eu danfon allan ar fenthyg gan Gaerdydd tan o leiaf ddiwedd y mis nawr, er bod Bolton ar eu holau – am fod y ddau dîm i wynebu’i gilydd yng Nghwpan yr FA ar Ionawr 25 (The Bolton News)