Mae’r blaenasgellwr ifanc Sam Lewis wedi ymddiheuro i’r Dreigiau am y “dryswch” ynglŷn â’i gytundeb wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth Sam Lewis arwyddo cytundeb newydd o ddwy flynedd gyda’r Gweilch, a hynny ddim ond ddeuddydd ar ôl i’r Dreigiau ddatgan eu bod nhw wedi ei arwyddo.

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau Lyn Jones: “Mae Sam yn ddyn ifanc sydd bellach yn sylweddoli difrifoldeb unrhyw gamau fydd o’n ei gymryd yn y dyfodol.

“Mae hi wedi bod yn gyfnod anghyffredin ac fel rhanbarth rydym yn awr yn tynnu llinell o dan y digwyddiad hwn ac yn symud ymlaen.”