Y baton yn gadael Palas Buckingham ym mis Hydref
Mae’r daith y bydd Baton Gemau’r Gymanwlad yn ei wneud trwy Gymru wedi cael ei chyhoeddi.

Bydd y baton yn teithio trwy Gymru am 7 diwrnod ar ôl cyrraedd maes awyr Caerdydd ar 24 Mai cyn teithio trwy Loegr i gyfeiriad yr Alban ar gyfer dechrau Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow ar 23 Gorffennaf.

Bydd y baton yn dechrau ei siwrne yn hen bwll glo Six Bells yn Abertyleri cyn mynd i Dredegar a Merthyr Tudful.

Ar yr ail ddiwrnod, fe fydd hi’n dechrau yn Aberdâr cyn gorffen y dydd yn Llandrindod.

Bydd y baton hefyd yn ymweld â maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Bala cyn mynd nôl i’r de i Dalacharn i nodi 100 mlynedd ers geni’r bardd Dylan Thomas ac yna i Rydaman, Llanelli a Chaerfyrddin.

Yna, fe fydd hi’n mynd o Dŷ Ddewi i Fachynlleth cyn gwneud ymddangosiad ar set Rownd a Rownd yn Ynys Môn ac ymlaen i Gaernarfon.

Bydd y daith yn gorffen gydag ymddangosiad yn Y Rhyl cyn teithio dros Foel Famau i Ruthun ac yna i Landegla.

Ers i’r baton ddechrau ei siwrne ym Mhalas Buckingham ym mis Hydref, gyda neges gan y Frenhines i’r Gymanwlad wedi ei gosod tu mewn i’r baton, mae eisoes wedi teithio miloedd o filltiroedd. Mae’n teithio trwy Nigeria ar hyn o bryd.

Erbyn diwedd y siwrne, bydd y baton wedi teithio dros 120,000 o filltiroedd ac wedi ymweld â 70 o wledydd dros y byd.