Ole Gunnar Solskjaer
Mae rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer yn agosáu at arwyddo’i chwaraewyr newydd cyntaf i’r Adar Gleision.

Mae’r rheolwr 40 mlwydd oed wedi targedu dau chwaraewr canol cae sydd wedi chwarae i dîm rhyngwladol Norwy –  Magnus Wolff Eikrem a Mats Moller Daehli.

Mae Solskjaer wedi cyd-weithio a’r ddau pan oedd yn rheoli clwb Molde yn Norwy.

Mae Magnus Wolff Eikrem, 23, ar hyn o bryd yn chwarae gyda chlwb Heerenveen yn yr Iseldiroedd ar ôl iddo gael ei werthu gan Molde haf diwethaf. Ond roedd yn gwylio’r gêm yn y stadiwm pan wnaeth Caerdydd guro Newcastle yng Nghwpan yr FA dros y penwythnos.

Mae disgwyl i Mats Deellir Daehli, 18, gael ei arwyddo o Molde dros y dyddiau nesaf.

Mae Caerdydd hefyd wedi bod yn gysylltiedig â Tom Ince o Blackpool a chwaraewr Crystal Palace Jonathan Williams.