Aron Gunnarsson
Bydd Cymru’n herio Gwlad yr Ia mewn gêm gyfeillgar fis Mawrth wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer ymgyrch Ewro 2016 fydd yn dechrau’r hydref hwn.
Mae’r gêm yn cael ei chwarae ar nos Fercher, 5 Mawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gydag amser y gic gyntaf eto i’w gadarnhau.
Mae rhai o’u sêr yn cynnwys chwaraewr canol cae Caerdydd, Aron Gunnarsson, a chwaraewr Tottenham Gylfi Sigurdsson.
Y tro diwethaf i’r ddau dîm herio’i gilydd oedd nol yn 2008, pan sgoriodd Ched Evans unig gôl y gêm gyda’i gyffyrddiad cyntaf i Gymru.
Gwlad yr Ia’n gwella
Mae’r gwrthwynebwyr yn 49fed yn netholiadau’r byd FIFA, saith safle yn uwch na Chymru sy’n 56fed, ar ôl ymgyrch wych wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil.
O dan eu rheolwr Lars Lagerback fe ddaethon nhw’n ail annisgwyl yng Ngrŵp E y tu ôl i’r Swistir, cyn colli i Croatia yn y gemau ail gyfle ar ôl llwyddo i gael gêm gyfartal gartref.
Roedd Croatia wedi cyrraedd y gemau ail gyfle rheiny ar ôl dod yn ail yn yr un grŵp a Chymru, a threchu’r Dreigiau ddwywaith – er i Gymru fod yn anffodus iawn i golli 2-1 gartref.
Roedd Lagerback yn un o’r rheolwyr a gafodd ei ystyried am swydd rheolwr Cymru nol yn 2010 pan gafodd Gary Speed ei apwyntio.
Ac fe fydd y gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Ia yn sicr yn her i Gymru, yn ôl y rheolwr presennol Chris Coleman.
“Mae Gwlad yr Ia wedi gwneud yn dda iawn i ddod o fewn trwch blewyn i Gwpan y Byd ac fe fyddwn nhw’n brawf anodd i ym mis Mawrth,” meddai Coleman.
“Mae’r ffaith eu bod yn uwch na ni yn y detholiadau yn golygu bod cyfle i ni godi os cawn ni ganlyniad ffafriol.
“Bydd y gêm yn rhan bwysig o’n paratoadau ar gyfer gemau Pencampwriaeth Ewrop fydd yn dechrau yn yr hydref.”
Mwy o gemau ar y gweill?
Mae’r gemau rhagbrofol ar gyfer Ewro 2016 yn Ffrainc yn dechrau ym mis Medi, gyda’r enwau yn cael ei dewis ar gyfer y grwpiau ddiwedd mis Chwefror.
Canlyniad siomedig gafodd Cymru yn eu gêm gyfeillgar ddiwethaf, pan ildiwyd gôl hwyr i’r Ffindir am ganlyniad terfynol o 1-1.
Mae Cymru hefyd yn gobeithio trefnu gemau cyfeillgar yn erbyn yr Eidal a Wrwgwai ym mis Mai, er nad yw’r rheiny wedi cael eu cadarnhau. Honno mae’n debyg fydd y cyfle olaf i baratoi’r tîm cyn i’r gemau rhagbrofol ddechrau.