George North
Sbardunodd George North ei dîm i fuddugoliaeth nos Wener wrth dirio’r cais agoriadol dros Northampton wrth iddyn nhw drechu Harlequins yn gyfforddus o 23-9.

Gyda’r sgôr yn 6-6 ar yr hanner, daeth fflach o athrylith North saith munud i mewn i’r ail hanner, pan gasglodd gic Dickson cyn gwrthymosod a hedfan drwy amddiffyn y Quins ar gyfer cais yn y gornel.

A diolch i berfformiad cryf arall gennym ni edrychodd y Seintiau yn ôl gan sgorio cais arall cyn y diwedd am y fuddugoliaeth – gyda North yn edrych fel petai’n fwy peryglus nawr ar ôl dechrau distaw i’w yrfa yn Franklin’s Gardens.

Sicrhaodd James Hook a Luke Charteris fuddugoliaeth werthfawr o 20-8 gyda Perpignan draw yn Ffrainc yn erbyn Bayonne, gyda Hook yn chwarae fel maswr ac yn cicio dau drosiad a dwy gic gosb i sicrhau’r fantais.

Colli unwaith eto’n anffodus fu hanes Aled Brew a Biarritz, wrth iddyn nhw gael eu trechu 8-16 gan Stade Francais – ond gyda Brew newydd gyhoeddi ei fod yntau a Lee Byrne yn dychwelyd i Gymru gyda’r Dreigiau y tymor nesaf, bydd yn gobeithio am well lwc i ddod.

Chafodd Dan Lydiate a Mike Phillips fawr o gyfle i greu argraff dros Racing Metro, y ddau ohonynt yn dod oddi ar y fainc mewn gêm ddiflas tu hwnt wrth iddyn nhw golli 6-0 i Oyonnax.

Yn ôl yng Nghynghrair Lloegr gêm gymysglyd ond cyffrous gafodd y maswr Owen Williams i Gaerlŷr, wrth iddyn nhw achub gêm gyfartal yn y munud olaf yn erbyn Caerfaddon.

Trosodd Williams bedair cic cosb ond methodd gyda’i dri ymgais i drosi’r ceisiau, gan olygu mai rhannu’r pwyntiau oedd yn rhaid gwneud. Dechreuodd Paul James i’r gwrthwynebwyr, gyda Martin Roberts yn cael ugain munud oddi ar y fainc.

Colli o dri phwynt wnaeth Caerwysg i Wasps, o 19-16, a Tom James yr unig Gymro ar y maes, tra mai ymddangosiadau byr yn unig gafodd Rhys Gill i Saracens a Will James a Martyn Thomas i Gaerloyw wrth i Saracens ennill 8-29.

Ond roedd digon o Gymry i’w gweld yn Newcastle nos Wener wrth iddyn nhw golli 8-16 i Sale. Daeth Warren Fury oddi ar y fainc i’r tîm cartref, dechreuodd Dwayne Peel a Jonathan Mills i’r gwrthwynebwyr, ac fe ddaeth Eifion Lewis-Roberts a Nick MacLeod oddi ar fainc yr ymwelwyr, gyda MacLeod yn trosi cic gosb hwyr i gadarnhau’r fuddugoliaeth.

Seren yr wythnos: George North – cais gwych yn sbarduno Northampton i fuddugoliaeth.

Siom yr wythnos: Mike Phillips – dal heb ddechrau gêm yn y Top 14 i Racing Metro eto, gyda Maxime Machenaud yn ei gadw allan o’r XV cyntaf.