Mae Rygbi Rhanbarthol Cymru wedi cyhoeddi datganiad heddiw sy’n amlinellu ei safle o fewn yr anghydfod gydag Undeb Rygbi Cymru.

Mae Rygbi Rhanbarthol Cymru’n cynrychioli’r pedwar rhanbarth – Dreigiau Gwent, Gleision Caerdydd, Y Gweilch a’r Scarlets – ac maen nhw’n dweud bod ffocws yr Undeb ar reoli rygbi yng Nghymru yn hytrach na lles pennaf y gamp.

Meddai’r datganiad gan Rygbi Rhanbarthol Cymru: “Mae’n siomedig mai ymateb amharchus Undeb Rygbi Cymru i gynnig sylweddol a chadarnhaol gan y rhanbarthau yw ymosodiad anonest ar y rhanbarthau Cymreig  gyda’r diben o dynnu sylw oddi wrth y problemau mae rygbi rhanbarthol Cymru yn ei wynebu.”

Cefndir

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru wythnos diwethaf eu bod nhw’n bwriadu cynnig cytundeb newydd i’r rhanbarthau wedi iddyn nhw wrthod arwyddo’r cytundeb blaenorol.

Mae’r rhanbarthau yn awyddus i’r Undeb gefnogi Cwpan Pencampwyr newydd y tymor nesaf a fyddai’n gystadleuaeth Ewropeaidd newydd gyda  chlybiau Lloegr a Ffrainc yn hytrach na Chwpan Heineken.

Mae rhai o’r rhanbarthau hefyd yn teimlo y dylen nhw gael gwell cydnabyddiaeth o ganlyniad i’w hymdrechion i gynorthwyo’r tîm cenedlaethol, yn enwedig gan fod chwaraewyr gorau Cymru’n gadael y wlad dros y ffin i Loegr ac i Ffrainc ble maen nhw’n cael mwy o arian.

Ond wythnos diwethaf hefyd, fe wnaeth yr Undeb anfon llythyr at y 320 o glybiau sy’n aelodau o Undeb Rygbi Cymru’n amlinellu ei safle o fewn yr anghydfod.

Arian teg

Mae’r datganiad heddiw gan Rygbi Rhanbarthol Cymru yn honni bod yr Undeb wedi methu a negyddu cyfran deg o arian i glybiau Cymru o’i gymharu â chlybiau yn Lloegr a Ffrainc.

Yn ogystal, maen nhw’n dweud y byddai Cwpan Pencampwyr newydd yn dod a rhagor o arian i rygbi yng Nghymru a’u bod nhw eisiau i’r Undeb gefnogi hynny.

Mae’r rhanbarthau hefyd yn flin bod yr undeb yn dychryn pobl wrth sôn bod y rhanbarthau’n bygwth torri’n rhydd.

“Dyw hyn erioed wedi cael ei grybwyll gan y rhanbarthau sydd ond wedi gofyn am gefnogaeth gadarnhaol gan yr Undeb,” meddai’r datganiad.

“Mae Rygbi Rhanbarthol Cymru a’r rhanbarthau unigol eisiau gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru er mwyn sefydlu dyfodol positif dros y pum mlynedd nesaf i rygbi proffesiynol yng Nghymru.”

Ychwanegodd y datganiad bod y rhanbarthau a Rygbi Rhanbarthol Cymru wedi cael eu gorfodi i “ystyried pob dewis arall” er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i rygbi rhanbarthol.